Mae Uwchgyfrifiadura Cymru wedi cymryd rhan mewn gwaith hanfodol a wnaed ym Mhrifysgol Caerdydd i gefnogi ymateb y Deyrnas Unedig i’r pandemig. Mae hyn wedi cynnwys cefnogi consortiwm COVID-19 Genomics (COG-UK), a dderbyniodd dros £30M o arian y llywodraeth i sefydlu dilyniannu genomau SARS-CoV-2 yn y DU (gyda thros £1M o grant i Brifysgol Caerdydd).
Mae’r Brifysgol yn gartref i un o’r ddau safle cyfrifiadurol sy’n darparu platfformau ar gyfer agregu data a dadansoddi data SARS-CoV-2 mewn amser real. Mae tîm Uwchgyfrifiadura Cymru wedi cynorthwyo â sefydlu’r systemau hyn, gan gyfrannu arbenigedd mewn amryw faes – o gwblhau gwaith i ddarparu sicrwydd ynghylch diogelwch y system, i helpu i sicrhau bod capasiti newydd yn weithredol i alluogi prosesu a storio dros 500,000 o genomau SARS-CoV-2 yn y 15 mis diwethaf. Mae’r cymorth hwn bellach yn pontio i ddarparu gallu dadansoddi yn uniongyrchol i asiantaethau Iechyd y Cyhoedd y DU, ynghyd â pharhau i gefnogi cenhadaeth ymchwil COG-UK. Mae cyfraniad y Brifysgol hefyd yn cynnwys gwaith biowybodeg a dilyniannu a wneir gan aelodau Ysgol y Biowyddorau.
Mae gan y gwaith hwn effaith ar lefelau amryfal. Ar lefel leol, mae gwaith a wneir mewn partneriaeth ag Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cyfrannu at nifer o ymchwiliadau i achosion yng Nghymru; ar lefel ranbarthol, mae’r data a gynhyrchir yn sylfaen i ymdrechion gwyliadwriaeth genomig COVID-19 yng Nghymru. Ar lefel genedlaethol, mae’r tîm yng Nghaerdydd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynhyrchu dadansoddiadau i Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ac wedi cyfrannu’n uniongyrchol at amryfal adroddiadau COG-UK a gyflwynwyd i SAGE Llywodraeth y DU.
“Rwyf wedi bod yn gweithio ar ddefnyddio setiau data metadata cleifion i ymchwilio i ledaeniad daearyddol llinachau SARS-CoV-2 yng Nghymru, ac effaith mewnforio llinachau i Gymru, “ medd Dr. Anna Price (Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil, Uwchgyfrifiadura Cymru a CLIMB-BIG-DATA). “Mae’r gwaith hwn yn cyfrannu at ymdrechion goruchwyliaeth genomig COVID-19 yng Nghymru ac ni fyddai’n bosibl heb y seilwaith yng Nghaerdydd a’r setiau data y mae COV-UK yn eu darparu, ynghyd â’r sgiliau sydd gen i fel Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil i allu cynhyrchu dadansoddiadau o’r setiau data hyn.”
Mae Uwchgyfrifiadura Cymru wedi darparu cymorth hanfodol i’r gwaith hwn trwy ddarparu caledwedd ac arbenigedd tîm Uwchgyfrifiadura Cymru. Mae cyfranwyr allweddol ym Mhrifysgol Caerdydd yn cynnwys: yr Athro Tom Connor (Athro, Prifysgol Caerdydd; Arweinydd Biowybodeg, Iechyd Cyhoeddus Cymru), Dr. Anna Price (Peiriannydd Meddalwedd Ymchwil, Uwchgyfrifiadura Cymru a CLIMB-BIG-DATA), Alex Southgate (Peiriannydd Systemau, CLIMB-BIG-DATA), Drew Mack (Myfyriwr PhD, CDT–AIMLAC), Dr Christine Kitchen (Uwchgyfrifiadura Cymru), yr Athro Martyn Guest (Uwchgyfrifiadura Cymru), Steffan Adams (Uwchgyfrifiadura Cymru) a Robert Munn (Uwchgyfrifiadura Cymru). Mae’r grŵp hefyd yn cydnabod cefnogaeth tîm y ganolfan ddata, sydd wedi cynorthwyo â gwaith yr oedd ei angen i’r ganolfan ddata er mwyn cefnogi gweithgareddau’r ymateb i’r pandemig.