Mae mangrofau – sef fforestydd sy’n sefyll lle mae’r cefnfor yn cwrdd â’r tir – yn allweddol i gefnogi byd natur a gweithredu effeithiol ar yr hinsawdd. Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Aberystwyth yn rhan o brosiect mawr, sef Global Mangrove Watch, a sefydlwyd yn wreiddiol gan yr Athro Richard Lucas (Prifysgol Aberystwyth) ac Ake Rosenqvist (soloEO), ac a ehangodd yn ddiweddar gyda’r Global Mangrove Alliance, sy’n ceisio dwyn rhanddeiliaid amrywiol ynghyd tuag at nod gyffredin, sef diogelu ac adfer ecosystemau mangrof.
Mae Dr Pete Bunting yn Ddarllenwr Synhwyro o Hirbell yn yr Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau’r Ddaear. Mae’n defnyddio’i arbenigedd mewn arsylwi’r ddaear o loerenni er budd Global Mangrove Watch (GMW) a, thrwy ddefnyddio adnoddau Uwchgyfrifiadura Cymru i storio a phrosesu setiau data enfawr, mae wedi gallu sicrhau bod GMW yn gallu cynnig y mapiau gorau posibl o fangrofau’r blaned [1].
“Mae mangrofau’n rhan hanfodol o ecosystem y ddaear ar sawl lefel,” medd Dr Bunting. “Er enghraifft, maen nhw’n tyfu ble na all llystyfiant arall dyfu, gan amddiffyn arfordiroedd a thrigfannau pobl rhag ymchwyddiadau stormydd, a dal a storio carbon, sy’n helpu i liniaru lefelau cynyddol CO2 atmosfferig.”
“Mae porth ar-lein GMW nid yn unig yn mapio graddau mangrofau yn flynyddol, mae hefyd yn cynnig hysbysiadau amser-real bron i ddefnyddwyr – a allai fod yn llywodraethau, yn awdurdodau lleol ac yn grwpiau amgylcheddol – am newidiadau i gyflyrau mangrofau. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr ddod i wybod am newidiadau yn gynt, fel y gallant weithredu’n gynt.”
Mae rhai o ddefnyddwyr cyfraniad Dr Bunting at fenter GMW yn uchel eu proffil. Dewisodd Rhaglen yr Amgylchedd y Cenhedloedd Unedig (UNEP) y data hwn i fod yn ddata swyddogol am fangorfau ar gyfer adrodd ar Ddangosydd 6.6.1 y Nod Datblygu Cynaliadwy[2], ac fe’i defnyddir ar blatfform Cynefinoedd Ocean+ y Cenhedloedd Unedig [3], sydd â’r nod o roi’r wybodaeth a’r adnoddau gorau posibl ar gyfer rheolaeth a chadwraeth ecosystemau cefnforoedd i benderfynyddion a chymunedau ymarfer y byd. Hefyd, dyma’r haen mangrofau y mae’r World Resources Institute yn ei ddefnyddio ar eu platfformau Global Forest Watch a Resource Watch [4, 5]. Mae GMW yn cael ei ddefnyddio i hysbysu Prosiect Biomas Menter y Newid yn yr Hinsawdd Asiantaeth Ofod Ewrop [6]. Mae gan iechyd ecosystemau cefnforoedd effeithiau cymdeithasol ac economaidd pwysig, ynghyd ag effeithiau amgylcheddol, ac mae gwaith ymchwil Dr Bunting yn y maes hwn wedi cael ei gyflwyno fel Astudiaeth Achos Effaith yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021, sef y system ar gyfer asesu ansawdd ymchwil yn sefydliadau addysg uwch y DU.
Mae cymryd rhan mewn cynlluniau byd-eang pellgyrhaeddol, sy’n cael effaith, yn rhoi ymchwil Cymru ar y map ac mae’n golygu bod ansawdd yn allweddol. Mae’r delweddau lloeren cydraniad uchel y mae Dr Bunting a’i dîm yn eu casglu yn cwmpasu ardaloedd daearyddol mawr, ac, felly maen nhw’n ffeiliau data mawr iawn. Mae cyfleuster cyfrifiadura uchel ei berfformiad Uwchgyfrifiadura Cymru yn caniatáu i’r data hwn ar raddfa fawr gael ei brosesu’n gyflym ac yn effeithlon. “Mae mangrofau yn esblygu’n gyson ac mae angen i lunwyr polisi a gwneuthurwyr penderfyniadau allu cael at wybodaeth o ansawdd uchel yn gyflym ac yn hawdd. Mae hyn yn arbennig o werthfawr yn y byd sy’n datblygu, lle nad oes gan lawer o wledydd yr adnoddau i allu datblygu’u mapiau a’u systemau gwybodaeth eu hunain o fangrofau,” medd Dr Bunting. “Rydym ni wedi prosesu a dosbarthu tua hanner miliwn o ddelweddau ar yr uwchgyfrifiadur hyd yn hyn – byddai gwneud hyn yn cymryd blynyddoedd ar flynyddoedd ar gyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur. Yn fyr, heb gyfrifiadura uchel ei berfformiad, byddai ein gwaith yn amhosibl.”
Mae setiau data GMW ar gael i’w lawrlwytho ar https://data.unep-wcmc.org/datasets/45.