Mae Mike Gravenor yn athro epidemioleg yn ysgol feddygol Prifysgol Abertawe ac mae’n aelod o Gell Cyngor Technegol Llywodraeth Cymru.
Pan sylweddolodd Llywodraeth Cymru fod angen modelu datblygiadau Covid-19 perthnasol yn lleol arnynt, cysylltont â Gravenor i ofyn beth oedd yn bosibl.
“Mae modelu wedi chwarae rhan amlwg iawn wrth geisio deall yr epidemig a chynllunio polisïau rheoli. Ac mae’r modelau hyn yn fanwl iawn iawn, gan gynnwys gwybodaeth i’r DU gyfan. Felly, roeddem yn gallu cael at yr allbwn hwnnw ond roeddem eisiau rhedeg senarios fymryn yn wahanol i Gymru, a defnyddio rhywfaint o’r wybodaeth ychwanegol a oedd gennym ar gyfer Cymru.
“Mae fy nghefndir ym maes modelu epidemiolegol, ond nid modelau ar y raddfa hon, ac roeddent yn gofyn am amserlen ddigon brawychus! Felly, cysylltais â Biagio Lucini, Prif Ymchwilydd Prifysgol Abertawe ar gyfer Uwchgyfrifiadura Cymru, a gofynnais am help,” meddai Gravenor.
Agorodd Lucini brosiect newydd i ymchwilio i’r posibilrwydd o redeg meddalwedd modelu presennol ar glwstwr Uwchgyfrifiadura Cymru, a’i haddasu ar gyfer senarios penodol i Gymru.
Mae defnyddio Uwchgyfrifiadura Cymru wedi bod yn hanfodol i’r broses, medd Gravenor.
“Mae llawer o ansicrwydd o hyd am y clefyd hwn a sut mae’n lledaenu. Rydym yn deall y prosesau cyffredinol, ond i geisio ateb cwestiynau polisi tra-chywir, fel beth sy’n digwydd os byddwch chi’n caniatáu gweithgareddau penodol neu’n agor ysgolion mewn ffordd benodol, mae’r canlyniad yn dibynnu ar lefel enfawr o bethau anhysbys. Os oes rhaid i chi redeg y model ar gyfer miloedd ar filoedd o gyfuniadau o baramedrau bob tro rydych chi’n rhedeg y model, yr unig ffordd o resymoli hynny yw trwy gyfrifiadura grymus iawn.”
Fe wnaeth yr Uwch Beirianydd Meddalwedd Ymchwil, Mark Dawson, ymgymryd â llawer o waith addasu’r cod ar gyfer Uwchgyfrifiadura Cymru.
“Yn hanesyddol, byddai rhywun yn rôl Mike wedi gallu cael at uwchgyfrifiadur a’i gyfrifoldeb ef fyddai’r gweddill. Ond mae ymchwilwyr yn arbenigwyr yn eu maes penodol: ni ellir disgwyl bob amser iddynt fod yn arbenigwyr ar uwchgyfrifiadura hefyd. Mae cael cymorth ac arbenigedd Peirianwyr Meddalwedd Ymchwil yn ymwneud â darparu arbenigedd cyfrifiannol i ymchwilwyr, fel bod ganddynt yr adnoddau angenrheidiol i archwilio tir newydd a chyffrous,” meddai.
Mae Dawson wedi datblygu’r cod i lefel lle y gall ymchwilwyr redeg senarios eu hunain ac ateb cwestiynau gan Lywodraeth Cymru yn gyflym.
Mae’r adborth gan y Llywodraeth wedi bod yn gadarnhaol, meddai Gravenor, oherwydd ymateb cyflym Uwchgyfrifiadura Cymru.
“Cael y modelau’n rhedeg o fewn diwrnodau, yna ychwanegu mwy a mwy o ddata penodol i Gymru – roeddent yn hapus iawn â’n cynnydd.”
Diweddariad Mai 2021:
Mae Dr Ben Thorpe, Dr Mark Dawson, a Dr Ed Bennett o dîm Peirianwyr Meddalwedd Ymchwil Uwchgyfrifiadura Cymru wedi parhau i weithio’n agos gyda’r Athro Biagio Lucini, Athro Mathemateg a Phrif Ymchwilydd Uwchgyfrifiadura Cymru Abertawe, a’r Athro Mike Gravenor, Athro Epidemioleg a Bioystadegau yn Ysgol Meddygaeth Prifysgol Abertawe, i gefnogi ymdrechion Llywodraeth Cymru i fodelu a deall lledaeniad COVID-19 yng Nghymru. Mae hyn wedi cynnwys datblygu ac optimeiddio model epidemiolegol sy’n benodol i gyd-destun Cymru, a chymhwyso’r model hwnnw i gynhyrchu amcangyfrifon o sut y gall y lledaeniad newid yn seiliedig ar newidiadau mewn polisi ac ymddygiad. Roedd canlyniadau’r rhagfynegiadau hyn yn rhan sylweddol o’r dadansoddiad Achos Gwaethaf Rhesymol a gyhoeddwyd gan Gell Ymgynghori Technegol Llywodraeth Cymru, ac a ysgogodd y broses o wneud penderfyniadau ynghylch y toriad tân ym mis Hydref-Tachwedd 2020 a’r symudiad cynnar i gyfyngiadau haen pedwar cyn Nadolig 2020. Mae’r gwaith hwn yn manteisio ar set sgiliau unigryw tîm RSE i ddatblygu, addasu a defnyddio meddalwedd yn gyflym i ymateb i’r sefyllfa newidiol yn y byd go iawn. Mae hefyd yn dibynnu ar seilwaith Cyfrifiadura Perfformiad Uchel Uwchgyfrifiadura Cymru yn Abertawe i gynnal y dadansoddiad ar gyflymder, a’i gwblhau mewn pryd i lywio penderfyniadau gweinidogol. Roedd yr adnoddau caledwedd a’r tîm Peirianneg Meddalwedd Ymchwil a ddarparwyd gan Uwchgyfrifiadura Cymru yn ffactor galluogi ar gyfer y gweithgaredd hwn; pe na bai’r adnoddau hyn ar gael, yna ni fyddai’r gwaith hanfodol hwn wedi bod yn bosibl.